Deddfwriaeth wrthwahaniaethol
Mae deddfwriaeth wrthwahaniaethol yn deillio o nifer o ffynonellau: deddfwriaeth y Deyrnas Unedig, cyfraith hawliau dynol a darpariaethau’r Undeb Ewropeaidd. Mae prif ddeddfwriaethau’r Deyrnas Unedig i’w gweld yn y tabl isod.
Ceir darpariaethau gwrthwahaniaethol ehangach yn Erthygl 14 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, Erthygl 2 o’r CCUHP ac Erthygl 19 o'r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2006 yn darparu ar gyfer sefydlu un Comisiwn Cydraddoldeb ar gyfer Cydraddoldeb a Hawliau Dynol â chyfrifoldebau am gydraddoldeb ac amrywiaeth, hyrwyddo hawliau dynol a gorfodi deddfiadau cydraddoldeb penodol.
Nid oes yr un o ddeddfiadau cydraddoldeb y Deyrnas Unedig yn rhoi sylw i wahaniaethu yn erbyn plant ar y sail mai plant ydynt. Mae Deddf Cydraddoldeb 2006 yn rhoi cylch gwaith eang iawn i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, sef hybu cysylltiadau da rhwng ‘grwpiau’. Gellir diffinio ‘grwp’ yn ôl oedran, ymhlith meini prawf eraill, ac mae hynny’n golygu y gallai plant fod yn ‘grwp’ i’r diben hwn. Nid yw’r ddarpariaeth hon yn ddyletswydd i beidio â gwahaniaethu na hyd yn oed yn ddyletswydd i hybu triniaeth gyfartal ond mae’n bosib y gellid ei defnyddio i hybu gwell mynediad at gyfleusterau a gwasanaethau i blant.
Derbyniodd Deddf Cyfartaledd 2010 Gydsyniad Brenhinol ar 8 Ebrill 2010. Yn benodol, nid yw’r Ddeddf, sy’n dod â’r holl ddeddfwriaeth bresennol ar gamwahaniaethu ynghyd, ac sy’n lledu gwarchodaeth rhag triniaeth annheg, yn rhoi gwarchodaeth gyfreithiol i blant a phobl ifanc rhag camwahaniaethu ar sail oedran. Mae parhau i beidio â gwarchod plant a phobl ifanc rhag camwahaniaethu annheg ar sail oedran yn achos nwyddau a gwasanaethau, a pheidio â chynnwys ysgolion a chartrefi plant rhag yr elfen oedran yn nyletswydd cyfartaledd y sector cyhoeddus, wedi arwain at ymgyrch gan y grwp Young Equals, yn gweithio gyda’r mudiad Childrens' Rights Alliance England (CRAE) – edrychwch ar eu hadroddiad Making the Case a’u gweithgareddau lobïo yma.
Am ragor o wybodaeth am Ddeddf Cyfartaledd 2010 edrychwch ar wefan EHRC yma.