Cynyddu ymwybyddiaeth o hawliau plant

Dylai pob sefydliad sy’n gweithio dros blant a phobl ifanc, a chyda phlant a phobl ifanc, helpu ei staff i ddeall pwysigrwydd hawliau plant a sut mae cymhwyso hawliau plant yn eu gwaith. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wedi’i gadarnhau gan fwy o Wladwriaethau nag unrhyw gytuniad hawliau dynol rhyngwladol arall ac mae’n sail i bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc.

Dylid cynorthwyo staff ledled Cymru i ddatblygu eu dealltwriaeth o bwysigrwydd y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn wrth wireddu hawliau plant a gwella bywydau plant. Dylai hyrwyddo a diogelu hawliau plant gael ei ystyried fel cyfrifoldeb i bawb a dylai sefydliadau wneud popeth sydd yn eu gallu i hyrwyddo hawliau plant yn gyhoeddus a herio achosion o dreisio hawliau plant.

Mae llawer o adnoddau sy’n ymwneud â hawliau plant (taflenni, DVDs, gwefannau, llyfrau) ar gael i staff i’w helpu i ddatblygu eu dealltwriaeth o hawliau plant.

Ewch i’n llyfrgell ar-lein and addysg a hyfforddiant er mwyn cael mwy o wybodaeth.

 

Experience the sports betting thrill.

betting websites uk