Mae Deddf Plant 1989
Mae Deddf Plant 1989 yn deddfu ar gyfer plant yng Nghymru a Lloegr. Bwriad y ddeddfwriaeth yw diwallu anghenion sy’n ymwneud â lles a datblygiad plant, gan gynnwys angen plant i gael eu diogelu rhag niwed. Mae prif egwyddorion y Ddeddf yn adlewyrchu rhai agweddau ar yr CCUHP; diogelwch rhag niwed, parch i hil, diwylliant ac ethnigrwydd plentyn, cyfrifoldeb rhieni i fagu plant ac, am y tro cyntaf, y ddyletswydd i ystyried dymuniadau a theimladau plentyn wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio arno.
Fodd bynnag, gall y cynsail sylfaenol bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar sail yr egwyddor o les, h.y. bod penderfyniad y llys/oedolyn ynglyn â phennaf les plentyn yn bwysicach na dim, mewn gwirionedd gyfyngu ar ymreolaeth plant a’u gallu i ymarfer eu hawliau’n annibynnol.
Dan y rhestr gyfeirio bresennol ar gyfer lles disgwylir i’r llysoedd ganfod y canlyniad mwyaf cydnaws â barn oedolion am bennaf les plant, pa un a yw’n gydnaws â dymuniadau’r plentyn ai peidio. Mae dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau plant yn cydnabod bod ymgynghori â phlant yn wahanol iawn i ddirprwyo’r hawl i wneud penderfyniadau’n gyfan gwbl iddynt, ond bod yn rhaid sicrhau cydbwysedd gofalus bob tro rhwng hawl erthygl 3 yn yr CCUHP (pennaf les) a rhoi ystyriaeth lawn i hawl plentyn dan erthygl 12 o’r Confensiwn (yr hawl i gyfranogi mewn materion sy’n effeithio arno).
Dylid sicrhau cydnabyddiaeth gynyddol, yn ymarferol ac yn gyfreithiol, o statws y plentyn fel bod dynol yn ôl ei hawl ei hun. Nid yw’n iawn i lysoedd wneud penderfyniadau barnwrol heb roi unrhyw ystyriaeth i farn plentyn neu ddewis anwybyddu barn plentyn yn gyfan gwbl. Dylid cael dull mwy systematig o ystyried dymuniadau plentyn ym mhob achos.
Am ddadansoddiad pellach o’r mater hwn gweler Fortin J (2009), Children’s Rights and the Developing Law, Third Edition. Cambridge University Press