Gwneud hawliau plant yn realiti
Mae dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau plant yn nodi ac yn mynd i’r afael â’r ffactorau sylfaenol sy’n achosi i hawliau gael eu treisio, yn rhoi sylw i fylchau wrth wireddu hawliau plant ac yn gweithredu newidiadau mewn polisi ac ymarfer. Gwneir hyn drwy gryfhau gallu sefydliadau ac unigolion sydd â dyletswydd a thrwy gynyddu eu hatebolrwydd am gyflawni hawliau plant. Mae’r dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau hefyd yn cryfhau gallu deiliaid hawliau, plant a phobl ifanc yn yr achos hwn, i weithredu er mwyn cael eu hawliau a galw deiliaid dyletswydd i gyfrif. Y nod yw gwneud gwelliannau parhaol i fywydau unigolion, yn enwedig y rhai sydd fwyaf ar y cyrion.
Mae gan y dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau plant nifer o fanteision o ran darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc. Lle mae dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar anghenion yn tueddu i roi sylw i broblemau symptomatig plant a phobl ifanc drwy ddarpariaeth lles, mae dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau plant yn rhoi sylw i’r hyn sydd wrth wraidd achosion o dreisio hawliau plant ac yn cynorthwyo plant a phobl ifanc i fod yn rhan o’r broses o gael eu hawliau cyfreithiol. Drwy’r dull gweithredu hwn mae canlyniad yr hyn rydym yn ceisio’i gyflawni ar gyfer plant yn cael ei nodi’n glir a chyfranogiad gweithredol plant yn cael ei gydnabod. Gall eu cyfranogiad fod drwy gamau gweithredu yn eu bywydau eu hunain a thrwy hawlio eu hawliau gan y rhai hynny sydd wedi’u nodi fel deiliaid dyletswydd cyfrifol.
Mae dulliau sy’n seiliedig ar hawliau plant yn cydnabod bod plant yn fodau dynol abl a bod ganddynt anghenion penodol. Ond yn hytrach na dechrau â thybiaethau cyffredinol ynghylch anghenion, yr hyn a alwyd yn fodel diffyg o blentyndod (Thomas 2004), mae dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau plant yn cychwyn â datganiadau cytunedig o hawliau y gellir eu gorfodi ac ymrwymiad i gyfranogiad plant a phobl ifanc yn y broses o gael yr hawliau hyn.
Mae gan y dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau plant nifer o fanteision o gymharu â dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar anghenion a dulliau eraill o ddarparu gwasanaeth i blant a phobl ifanc.
Nodau yn seiliedig ar les, elusennol |
Hawliau cyfreithiol, hawliadau, gwarantau, cyfiawnder, cydraddoldeb, rhyddid |
Gwirfoddol |
Gorfodol |
Mynd i’r afael â’r symptomau |
Mynd i’r afael â’r hyn sydd wrth wraidd achosion |
Nodau rhannol (e.e. 80% o blant yn cael eu himiwneiddio) |
Nodau cyflawn – pawb â’r un hawliau (mae imiwneiddio 80% yn golygu bod 20% heb eu himiwneiddio a bod hawliau’r plant hynny heb eu gwireddu). |
Hierarchaeth anghenion (rhai anghenion yn cael eu hystyried yn bwysicach na’i gilydd) e.e. bwyd cyn addysg. |
Ni ellir gwahanu hawliau. Maent yn anwahanadwy ac yn dibynnu ar ei gilydd. |
Anghenion yn amrywio gan ddibynnu ar y sefyllfa, yr unigolyn a’r amgylchedd |
Hawliau’n gyffredinol (yr un fath ym mhobman) |
Darparu gwasanaethau lles (gwrthrych anghenion) |
Grymuso (gwrthrych hawliau). Deiliaid hawliau’n cael eu grymuso i fynnu eu hawliau |
Pennu anghenion yn oddrychol |
Hawliau’n seiliedig ar safonau rhyngwladol |
Persbectif tymor byr, llenwi bylchau |
Persbectif hirdymor |
Plant yn haeddu cymorth |
Mae gan blant hawl i gymorth |
Dylai’r Llywodraeth wneud rhywbeth ond nid oes gan neb rwymedigaeth benodol |
Mae gan lywodraethau rwymedigaethau cyfreithiol a moesol cyfrwymol |
Gall plant gyfranogi er mwyn gwella’r gwasanaeth a ddarperir |
Mae plant yn gyfranogwyr gweithredol drwy eu hawl |
Os yw adnoddau’n brin gallai rhai plant gael eu hepgor |
Mae gan bob plentyn yr un hawl i gyflawni ei botensial |
Mae manteision cynllunio a darparu gwasanaethau ar sail y fframweithiau hyn sy’n seiliedig ar hawliau, yn hytrach na chanfyddiadau o anghenion plant wedi’u crynhoi gan Achub y Plant, UNICEF a Sefydliad Hawliau Dynol Denmarc.
Nod clir, cyffredin, hirdymor (ar gyfer cyflawni hawliau dynol) |
Gall ymrwymiad i sicrhau hawliau cytunedig ddarparu nod sy’n cael ei rannu gan bawb ynghyd â’r safonau i fesur cynnydd tuag ato. |
Atebolrwydd |
Nodir cyfrifoldebau llywodraethau, rhoddwyr, y sector preifat, cymunedau ac unigolion ac mae ffyrdd amrywiol o’u galw i gyfrif eisoes wedi’u datblygu a’u profi. |
Grymuso |
Mae cyfranogiad gweithredol grwpiau sydd dan anfantais ac y gwahaniaethir yn eu herbyn yn cael ei ystyried yn hanfodol er mwyn sicrhau cyfiawnder cymdeithasol, peidio â gwahaniaethu a chyflwyno datblygiadau er mwyn helpu plant tlawd. |
Cyfiawnder |
Ceir ffocws cryf ar gyfiawnder, cydraddoldeb a rhyddid a pharodrwydd i fynd i’r afael â’r materion yn ymwneud â phwer sydd wrth wraidd tlodi ac ecsbloetio. Mae yna ymrwymiad i gyrraedd y rhai sydd wedi’u cau allan fwyaf. |
Mwy o argraff ac effeithiolrwydd |
Oherwydd ei bwyslais ar atebolrwydd, grymuso a gweithrediaeth mae’r dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau’n cael ei ystyried yn fwy effeithiol yn y frwydr yn erbyn anghyfiawnder, tlodi ac ecsbloetio. |
Dull integredig |
Mae dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau’n ymgorffori’r hyn sy’n cael ei ystyried gan lawer fel “ymarfer datblygu da” mewn un dull gweithredu holistig cyffredinol. |
Mae cysylltiad agos rhwng y dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau plant a dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau dynol sydd wedi dod i’r amlwg o ganlyniad i waith datblygu ac sy’n seiliedig ar gydrannau craidd. Mae dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau wedi dangos y gellir gwella ansawdd bywyd pobl drwy ymarferion sy’n “canolbwyntio ar bobl”, sy’n grymuso, sy’n gyfranogol ac sy’n canolbwyntio ar gyflawni eu hawliau, yn hytrach na dibynnu ar effeithiau pasio ymlaen ym maes datblygu economaidd. Mae’r arferion grymusol hyn yn canolbwyntio ar ddefnyddio datganiadau rhyngwladol a chyfreithiau lleol i ddal gwladwriaethau, a phartïon eraill, yn gyfrifol am gyflawni’r hawliau y maent wedi eu derbyn. Mae dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau’n becyn a’u cymhwysiad systematig a chyflawn sy’n eu gwneud mor effeithiol.
Canolbwyntio ar blant |
Canolbwyntio’n glir ar blant, eu hawliau a’u rôl fel gweithredwyr cymdeithasol. |
Golwg holistig ar blant |
Ystyried pob agwedd ar blentyn wrth wneud dewisiadau strategol a phennu blaenoriaethau. |
Atebolrwydd |
Pwyslais cryf ar atebolrwydd am hyrwyddo, diogelu a gwireddu hawliau plant ar draws ystod o ddeiliaid dyletswydd o’r deiliad dyletswydd sylfaenol – y wladwriaeth, (e.e. llywodraeth leol a chanolog) i’r sector preifat, y cyfryngau, gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â gofal plant ac unigolion eraill sy’n dod i gysylltiad uniongyrchol â phlant. |
Cefnogi deiliaid dyletswydd |
Ystyried sut y gellid helpu deiliaid dyletswydd i gyflawni eu rhwymedigaethau drwy gymorth technegol, cefnogaeth gyllidebol a mathau eraill o bartneriaethau. |
Eiriolaeth |
Pwysigrwydd eiriolaeth, addysgu’r cyhoedd a chynyddu ymwybyddiaeth. |
Peidio â gwahaniaethu |
Ymrwymiad i gynnwys y plant sydd fwyaf ar y cyrion. |
Cyfranogi |
Hybu cyfranogiad effeithiol plant a herio gwahaniaethu ar sail ffactorau fel rhyw, dosbarth, ethnigrwydd, (an)abledd, ac ati. |
Pennaf les |
Ystyried (gyda phlant) effaith polisi, deddfwriaeth, cyllidebau, dewis o raglenni ar blant. |
Goroesi a datblygu |
Canolbwyntio ar oroesiad uniongyrchol plant yn ogystal ag ymrwymiad i sicrhau eu bod yn datblygu i’w llawn botensial. |
Plant fel rhan o gymuned |
Dealltwriaeth o le plant yn eu teuluoedd, eu cymuned a’u cymdeithas a rôl eu rhieni a gofalwyr eraill er mwyn diogelu hawliau plant a llywio’u datblygiad. |
Achosion gwreiddiol a materion cyffredinol |
Canolbwyntio ar yr achosion gwaelodol ynghyd ag achosion uniongyrchol o dreisio hawliau. |
Partneriaethau |
Adeiladu partneriaethau a chynghreiriau ar gyfer hybu, diogelu a gwireddu hawliau plant. |
Hysbysrwydd a gwybodaeth |
Hwyluso mynediad at hawliau plant a dealltwriaeth ohonynt i’r plant eu hunain. |
Mae proses y dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau’n edrych fel hyn: