Sylwadau cyffredinol
Dogfen sy’n cael ei chyhoeddi’n achlysurol gan y Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn yw Sylw Cyffredinol. Yn y Sylwadau Cyffredinol hyn mae’r Pwyllgor yn rhoi dehongliad llawnach o erthygl neu ddarpariaeth yn y Confensiwn. Maent yn cynnig arweiniad a chymorth i weithredu’r Confensiwn.
Mae Sylw Cyffredinol yn aml yn dilyn Diwrnod Trafodaeth Gyffredinol. Unwaith y flwyddyn, yn ei sesiwn ym mis Medi, mae’r Pwyllgor yn cynnal Diwrnod Trafodaeth Gyffredinol ar ddarpariaeth yn y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn er mwyn cyhoeddi argymhellion manylach i lywodraethau. Bob blwyddyn, gwahoddir plant, cyrff anllywodraethol ac arbenigwyr i gyflwyno dogfennau fel sail ar gyfer dadl undydd y Pwyllgor gyda rhanddeiliaid (asiantaethau’r Cenhedloedd Unedig, aelodau’r Pwyllgor, cyrff anllywodraethol, academyddion, cyfreithwyr, plant, ac yn y blaen).
Mae sylwadau cyffredinol yr holl gyrff cytuniadau hawliau dynol wedi’u dwyn ynghyd yn y ddogfen HRI/GEN/1/Rev.9 (Vol.II)
A | C | E | F | R | S