Rheoli Perfformiad
Y prosiect datblygu fframwaith ar gyfer dulliau mesur canlyniadau
Mae’r canllawiau ar gyfer y Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc, a nodwyd yn Cynllunio ar y Cyd i Wella Canlyniadau (Llywodraeth Cynulliad Cymru 2007) yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd. Gan ddefnyddio dull ‘atebolrwydd sy’n seiliedig ar ganlyniadau’, bydd prosiect Fframwaith ar gyfer Dulliau Mesur Canlyniadau’n ceisio nodi a sicrhau cytundeb ar gyfer cyfres o ddulliau mesur data i’w defnyddio ar ffurf Fframwaith ar gyfer Dulliau Mesur Canlyniadau sy’n dangos y gwahaniaethau o fewn y boblogaeth ar gyfer plant a phobl ifanc mewn ardal partneriaeth plant a phobl ifanc. Bydd wedi’i strwythuro er mwyn adlewyrchu’r CCUHP fel y mae wedi’i grynhoi yn y saith nod craidd.
Cyhoeddir y Fframwaith ar gyfer Dulliau Mesur Canlyniadau yn Ebrill 2010, yn dilyn ymgynghoriad. Bydd yn cynnwys dulliau mesur lefel uchel y mae’n ofynnol i bob Cynllun adrodd amdanynt, a grwpiau o ddulliau mesur ychwanegol y gellir dewis ohonynt er mwyn mesur perfformiad ar sail blaenoriaethau lleol. Gobeithir y bydd y Fframwaith, pan fydd wedi cael ei ddatblygu’n llawn, yn galluogi Llywodraeth y Cynulliad i adrodd am berfformiad wrth weithredu hawliau plant yng Nghymru. Bydd y Fframwaith ar gyfer Dulliau Mesur Canlyniadau’n ffurfio rhan o strwythur cydlynol sy’n cefnogi rheoli perfformiad ar draws rhaglenni a phrosiectau cyflenwi gwasanaeth cenedlaethol a lleol sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc a’u teuluoedd.
Bydd hyn yn gyson â’r symudiad yn y pen draw at Gytundebau Canlyniadau ar draws gwasanaethau cyhoeddus. Dylai’r rhain fod yn sail i berthynas newydd rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a llywodraeth leol, lle bydd ‘ennill’ mwy o hyblygrwydd ar wariant yn cael ei wrthbwyso gan atebolrwydd drwy gytundeb ar y prif ganlyniadau.
Bydd y Fframwaith ar gyfer Dulliau Mesur Canlyniadau’n ategu cynlluniau cenedlaethol sy’n ceisio gwella trefniadau rheoli perfformiad ac atebolrwydd darparwyr, gan gynnwys:
- rhaglen IDeAS Llywodraeth Cynulliad Cymru, ei hamcanion canlyniad strategol a gofynion ‘dangosfwrdd’; ;
- datblygu system gydlynol ar gyfer mesur perfformiad a rheoleiddio gwasanaethau cyhoeddus; ;
- datblygu cytundebau canlyniadau ar gyfer yr awdurdod lleol yn ei gyfanrwydd; ;
- gweithredu’r Mesur Plant a Theuluoedd er mwyn lliniaru tlodi plant a’i 12 nod cyffredinol; ;
- datblygu Cynllun Plant a Phobl Ifanc ar gyfer Cymru; a’r
- Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion sy’n ymgorffori diben cenedlaethol ar gyfer ysgolion ac yn adlewyrchu ymchwil a syniadau rhyngwladol am ysgolion effeithiol, wedi’u gosod mewn cyd-destun er mwyn adlewyrchu polisïau a blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc.
Bydd fersiwn cyntaf y Fframwaith ar gyfer Dulliau Mesur Canlyniadau’n seiliedig i raddau helaeth ar ddulliau mesur sy’n bodoli’n barod a bydd yn defnyddio data arolygon a data gweinyddol sy’n cael eu casglu’n rheolaidd, gan gynnwys setiau data o’r Monitor Lles Plant a Phobl Ifanc, y Cynllun Plant a Phobl Ifanc cyntaf a dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer llywodraeth leol.
Mae’r rhan fwyaf o’r dulliau mesur presennol yn canolbwyntio ar berfformiad ac argaeledd gwasanaethau ac uchelgeisiau yn hytrach na chanlyniadau ar lefel poblogaeth. Bydd y Fframwaith ar gyfer Dulliau Mesur Canlyniadau’n canolbwyntio ar atebolrwydd poblogaeth, gan gynnwys dulliau mesur atebolrwydd perfformiad lle bernir bod y rhain yn briodol. O ganlyniad, bydd cynnyrch y prosiect yn cynnwys tasgau ar gyfer gweithredu pellach, gan gynnwys datblygu dulliau mesur canlyniadau poblogaeth y gellir eu casglu ar lefel leol.
Am ragor o wybodaeth am y Fframwaith OMF cysylltwch â Jo Trott : Llywodraeth Cynulliad Cymru: