Cyflawni hawliau plant
Mae’r cam hwn yn cynnwys camau gweithredu penodol er mwyn bodloni’r gofynion sy’n ymwneud â gwireddu hawliau plant a’r CCUHP. Gellir ystyried darparu fel dull gweithredu sydd â thair colofn:
1. Cymryd camau uniongyrchol i ymdrin ag achosion o dreisio hawliau a bylchau yn y ddarpariaeth.
2. Cryfhau gallu deiliaid dyletswydd i gyflawni eu dyletswyddau, e.e. drwy strwythurau a mecanweithiau, cyfreithiau, polisïau ac ymarfer.
3. Cryfhau dealltwriaeth a gallu plant, eu gofalwyr a chymdeithas sifil i fynnu hawliau a galw deiliaid dyletswydd i gyfrif.
Mae beth yn union y byddai eich sefydliad neu’ch gwasanaeth chi’n ei wneud mewn perthynas â’r tair colofn hyn yn dibynnu ar y dyletswyddau sydd gennych chi a’ch sefydliad. Am ragor o offer a chyngor ynghylch sut i wireddu hawliau plant ewch i Adran Prif Ffrydio’r wefan a dechreuwch â Strategaeth Hawliau Plant ac Offeryn Hunanasesu Hawliau Plant.