Deddf Plant 2004
Mae Deddf Plant 2004 yn gwneud darpariaeth ynghylch gwasanaethau sy’n cael eu darparu i blant a phobl ifanc, a rhai sy’n cael eu darparu ar gyfer plant a phobl ifanc, gan awdurdodau lleol a chyrff eraill, ac yn nodi y dylent weithio gyda’i gilydd er mwyn gwella lles plant yn yr ardal leol. Mae’n galluogi awdurdodau lleol a’u partneriaid statudol i ddod â’u cyllidebau a’u hadnoddau anariannol at ei gilydd.
Gwrthwynebodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig welliannau a gynigiwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno’r Confensiwn fel fframwaith ar gyfer darparu gwasanaeth. Byddai deddfwriaeth a fyddai wedi’i seilio’n uniongyrchol ar hawliau’r CCUHP yn sicr wedi arwain at fframwaith cryfach, yn seiliedig ar hawliau, ar gyfer plant. Fodd bynnag, mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi llwyddo i adfer y sefyllfa hon i ryw raddau drwy ddefnyddio pwerau ar gyfer is-ddeddfwriaeth, gan fod y Ddeddf yn cynnwys rhannau ar wahân ar gyfer darparu gwasanaethau plant yng Nghymru:
"Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi mabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig fel sail ar gyfer ei holl ymwneud â phlant a phobl ifanc, a dylai awdurdodau lleol a’u partneriaid perthnasol ystyried ei egwyddorion wrth ddarparu gwasanaethau" (adran 2.11)
Mae partneriaethau strategol (a elwir yn bartneriaethau plant a phobl ifanc) yn bodoli er 2002 ac maent wedi bod ar sail statudol ers y ddeddfwriaeth uchod yn 2004. Mae’r gyfraith yn nodi ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol a’r prif asiantaethau sy’n bartneriaid gydweithio er mwyn gwella lles plant a phobl ifanc yn yr ardal leol. Rhoddodd Deddf Plant 2004 ddyletswydd ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i benodi cyfarwyddwr arweiniol ac aelod arweiniol ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifanc.
Mae’n rhaid i fyrddau iechyd lleol ddynodi swyddogion arweiniol ac mae aelodau arweiniol o Ymddiriedolaethau’r GIG yn dynodi cyfarwyddwyr gweithredol ac anweithredol arweiniol â chyfrifoldebau sy’n adlewyrchu cyfrifoldebau cyfarwyddwr arweiniol yr awdurdod lleol.
Mae’n ofynnol i bob un o’r 22 Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc gynhyrchu cynllun plant a phobl ifanc sy’n nodi sut y byddant yn gwella lles plant a phobl ifanc. Mae’r cynlluniau hyn yn seiliedig ar 7 Nod Craidd Llywodraeth y Cynulliad sy’n drosiad uniongyrchol o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn er mwyn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc:
- Yn cael dechrau da mewn bywyd: Erthyglau 3, 29, 36
- Yn cael ystod gynhwysfawr o gyfleoedd addysg a dysg: Erthyglau 23, 28, 29, 32
- Yn mwynhau’r iechyd gorau posib, yn rhydd o gamdriniaeth, erledigaeth ac ecsbloetiaeth: Erthyglau 6, 18-20, 24, 26-29, 32-35, 37 a 40
- Yn cael mynediad at weithgareddau chwarae, hamdden, chwaraeon a diwylliannol: Erthyglau 15, 20, 29, 31
- Yn cael eu trin â pharch, yn cael pobl i wrando arnynt, gan gydnabod eu hil a’u hunaniaeth ddiwylliannol: Erthyglau 2, 7, 8, 12-17, 20
- Yn byw mewn cartref a chymuned ddiogel sy’n cefnogi lles corfforol ac emosiynol: Erthyglau 19, 20, 25, 27, 32-35, 37 a 40
- Ddim dan anfantais oherwydd tlodi: Erthyglau 6, 26, 7, 28