Hawliau plant yng Nghymru
Pan fo Gwladwriaeth yn cadarnhau’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn, mae’n derbyn rhwymedigaeth dan gyfraith ryngwladol i’w weithredu. Gweithredu yw’r broses lle mae Gwladwriaethau’n cymryd camau er mwyn sicrhau bod pob hawl sydd yn y Confensiwn yn cael ei gwireddu ar gyfer pob plentyn sydd yn eu hawdurdodaeth.
Er mai’r Wladwriaeth sy’n derbyn rhwymedigaethau dan y Confensiwn, mae angen i’r gwaith o weithredu’r Confensiwn – gwneud hawliau dynol plant yn realiti – gynnwys pob rhan o’r gymdeithas ac, wrth gwrs, y plant eu hunain. Mae sicrhau bod pob deddfwriaeth ddomestig yn gwbl gydnaws â’r Confensiwn a bod modd cymhwyso egwyddorion a darpariaethau’r Confensiwn yn uniongyrchol a’u gorfodi’n briodol yn hollbwysig.
Mae’r camau gweithredu cyffredinol yn ymwneud yn y bôn â datblygu persbectif sy’n seiliedig ar hawliau plant ym mhob rhan o’r llywodraeth, y senedd a’r farnwriaeth. Bwriadwyd y camau hyn er mwyn hybu’r gallu i fwynhau holl hawliau’r CCUHP yn llawn, o ymgorffori’r CCUHP mewn deddfwriaeth ddomestig, i sefydlu cyrff cydgysylltu a monitro (llywodraethol ac annibynnol), i gasglu data cynhwysfawr, cynyddu ymwybyddiaeth a hyfforddiant, monitro cyllidebau a datblygu cynlluniau gweithredu ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi’u gwreiddio yn yr CCUHP. Mae’r camau hyn yn hollbwysig er mwyn gweithredu’r CCUHP yng Nghymru.
Bydd clicio ar unrhyw un o’r blychau uchod yn mynd â chi at dudalennau sy’n amlinellu beth sy’n digwydd o ran gweithredu’r CCUHP yng Nghymru. Bydd cynnwys y tudalennau hyn yn cael ei ddiweddaru pan fydd cynnydd i’w weld.