Comisiynu a chaffael
Beth yw Comisiynu?
Mae comisiynu’n ymwneud â 'sut' – lle mae cyrff sector cyhoeddus yn penderfynu pa wasanaethau y mae arnynt eu hangen er mwyn cyflawni eu blaenoriaethau. Mae’r Comisiwn Archwilio’n diffinio comisiynu fel y broses "o bennu, sicrhau a monitro gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion pobl ar lefel strategol", [Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol / Y Comisiwn Archwilio (2003) Making Ends Meet], a thrwy hynny bwysleisio pwysigrwydd comisiynu fel rhywbeth sy’n seiliedig ar anghenion.
Mae comisiynu’n ymwneud ag:
- Asesu (neu ailasesu) angen
- Dynodi adnoddau
- Cynllunio sut i ddefnyddio’r adnoddau
- Trefnu i ddarparu gwasanaeth drwy broses gaffael
- Monitro ac adolygu’r gwasanaeth a ddarperir
Beth yw Caffael?
Caffael yw’r 'gwneud' – y broses o brynu’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu gan elusen, menter gymdeithasol, busnes neu asiant cyhoeddus. Mae hyn yn ymwneud â phroses 'dendro' ac mae’n cael ei gweithredu o amgylch gofynion comisiynu.
Mae caffael yn ymwneud â’r canlynol:
- Prynu - y broses o sicrhau neu brynu’r gwasanaethau; a
- Contractio – y dull sy’n gwneud y broses yn gyfreithiol-rwym
Mae Uned Cefnogi’r Partneriaethau yng Nghymru wedi datblygu Pecyn Cymorth Comisiynu ar gyfer Partneriaethau (UCP / SSIA). Mae’n manteisio ar raglen ‘Comisiynu ar gyfer Gwell Deilliannau i Blant Anghenus’ (BOCIN) yn ogystal â gwaith arall datblygu partneriaethau, ac wedi ei gynllunio ar y cyd gan yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol (AGGGC) ac Uned Cefnogi’r Partneriaethau (UCP) gyda chefnogaeth y Sefydliad Gofal Cyhoeddus ym Mhrifysgol Brookes Rhydychen.
Yng Nghymru rydym yn edrych ar ffyrdd o ddatblygu’r dull hwn o weithredu a sicrhau bod comisiynu a chaffael gwasanaethau yn cydymffurfio gyda’r Confensiwn ac yn defnyddio dull sy’n parchu hawliau plant.
Canllawiau Comisiynu a Chaffael ar gyfer hawliau plant i’w gweld yma’n fuan