Pwyllgor ar Hawliau'r Plentyn
Criw o arbenigwyr sy’n monitro sut y mae Gwladwriaethau’n gweithredu’r CCUHP yw’r Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn. Mae’r Pwyllgor yn cynnal sesiynau rheolaidd bob blwyddyn i adolygu adroddiadau Gwladwriaethau ynghylch cynnydd y maent wedi’i wneud wrth geisio cyflawni eu rhwymedigaethau dan y Confensiwn a’i Brotocolau Dewisol. Gall y Pwyllgor wneud awgrymiadau a chyhoeddi argymhellion i lywodraethau ac i’r Cynulliad Cyffredinol ynghylch ffyrdd o gyflawni amcanion y Confensiwn.
Sesiynau’r Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn
Mae’r Pwyllgor yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn am gyfnod o dair wythnos yn Ionawr, Mai-Mehefin a Medi. Yn ystod pob sesiwn, bydd y Pwyllgor yn archwilio adroddiadau gan tua 10 Gwladwriaeth, yn trafod materion gyda dirprwyaeth o’r llywodraeth ac yn cyhoeddi argymhellion (a elwir yn "Sylwadau Terfynol").
Gwahoddir cyrff anllywodraethol i gyflwyno "Adroddiadau Amgen" i gyd-fynd ag adroddiadau’r Gwladwriaethau er mwyn rhoi persbectif gwahanol i’r Pwyllgor. Mae pob Adroddiad Amgen yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn drwy Grwp y Cyrff Anllywodraethol ac yn cael ei ddangos ar wefan CRIN yn ôl sesiwn. Yn ychwanegol at hyn gellir chwilio drwy adroddiadau cyrff anllywodraethol ar wefan CRIN yn ôl gwlad, sesiwn ac awdur.
Mae gwybodaeth ynghylch sesiynau sydd wedi’u cynnal a sesiynau sy’n mynd i gael eu cynnal, gan gynnwys adroddiadau Gwladwriaethau a Sylwadau Terfynol, i’w gweld ar wefan yr Uchel Gomisiynydd Hawliau Dynol.