Egwyddorion hawliau dynol
          Mae’r dudalen hon yn disgrifio’r prif egwyddorion sy’n berthnasol i hawliau dynol a sut y mae’r rhain yn berthnasol i hawliau plant a phobl ifanc. Mae’r gymuned ryngwladol wedi sefydlu cyfres o egwyddorion neu nodweddion sy’n berthnasol i hawliau dynol. Drwy lofnodi confensiynau hawliau dynol rhyngwladol mae pob Gwladwriaeth yn derbyn y rhain ac yn cytuno i gydymffurfio â hwy:
          Mae hawliau dynol yn ddiymwad
          
            - Ni ellir eu cymryd oddi wrth bobl.
 
            - Mewn rhai amgylchiadau gellir atal neu gyfyngu ar eich hawliau dynol (e.e. gellir cymryd eich rhyddid oddi wrthych os ydych yn cyflawni trosedd neu gellir cyfyngu ar eich rhyddid i symud mewn cyfnod o anhrefn sifil).
 
          
          Mae hawliau dynol yn annibynnol, yn anwahanadwy ac yn gydberthnasol
          
            - Mae’r holl wahanol hawliau dynol yn bwysig ac yn angenrheidiol i bob bod dynol.
 
            - Nid oes un hawl unigol sy’n bwysicach na’r gweddill.
 
            - Maent yn gysylltiedig ac ni ellir eu hystyried ar wahân i’w gilydd.
 
            - Mae mwynhau un hawl yn dibynnu ar fwynhau nifer o hawliau eraill.
 
          
          Mae hawliau dynol i bawb
          
            - Maent yn perthyn i bawb drwy’r byd i gyd.
 
            - Maent yr un mor berthnasol i bobl ym mhob rhan o’r byd heb gyfyngiadau amser na gwahaniaethu.
 
          
          Mae egwyddorion pwysig eraill sy’n ymwneud â hawliau dynol yn cael eu crynhoi yn Saesneg â’r acronym FREDA - Fairness, Respect, Equality, Dignity, Autonomy.
          Dolenni cyswllt defnyddiol
          Braslun hanesyddol