Monitro a gwerthuso
Mae angen i fonitro a gwerthuso fod ynghlwm wrth ofynion cynllunio ac arferion cyfundrefnol da eich sefydliad. Ewch i’r adran Rheoli Perfformiad sy’n amlinellu’r Fframwaith ar gyfer Dulliau Mesur Canlyniadau sy’n cael ei ddatblygu ar gyfer proses Gynllunio Plant a Phobl Ifanc.
Un elfen allweddol yw diffinio dangosyddion er mwyn olrhain llwyddiant cynllun neu gamau gweithredu a ddewisir. Mae dangosyddion yn cael eu cynllunio er mwyn olrhain canlyniadau ac allbwn rhaglen. Mae canlyniadau’n ymwneud â’r amcanion y cynlluniwyd y rhaglen er mwyn eu cyflawni ac mae allbwn yn ymwneud â’r gweithgareddau a roddwyd ar waith. Yn aml iawn mae rhaglenni’n cael eu cynllunio â cherrig milltir penodol i’w cyflawni mewn dilyniant penodol gyda dangosyddion i ddangos pa bryd y cyrhaeddwyd y camau hyn. Mae gwerthuso’n cyfeirio at y broses o bwyso a mesur gweithrediad rhaglen benodol er mwyn canfod gwersi i’w dysgu ar gyfer y dyfodol. Rhaid i farn plant a phobl ifanc fod yn rhan annatod o’r broses fonitro a gwerthuso.
Gan ddibynnu ar fwriad yr ymyriad, gallai’r broses fonitro ymwneud â mesur y canlynol:
- Newidiadau mewn ymwybyddiaeth o hawliau plant
- Newidiadau mewn polisïau, strategaethau a gallu sefydliadau i barchu a gwireddu hawliau plant
- Newidiadau yn sefyllfa wirioneddol plant
Outcome-based service planning, delivery and performance management
Results Based Accountability™ (RBA™) – sometimes called Outcome Based Accountability is being used in Wales by a growing number of public and voluntary organisations and partnerships to help inform partnership planning, commissioning and performance management. For more information about RBA see the PSU website here
Am ragor o wybodaeth ynghylch lle i fynd i gael gwybodaeth am statws lles plant yng Nghymru a hawliau plant ewch i Hawliau plant yng NghymruWales, Monitro ac Adrodd.