Cyrff anllywodraethol
Cynghrair genedlaethol o gyrff anllywodraethol ac asiantaethau academaidd sy’n cael ei galw ynghyd a’i chadeirio gan raglen Achub y Plant yng Nghymru yw Grwp Monitro CCUHP Cymru. Pennaeth Achub y Plant yng Nghymru yw Cadeirydd y grwp a Swyddog Hawliau Plant a Pholisi Achub y Plant sy’n cydgysylltu gwaith y grwp. Mae’r grwp yn gyfrifol am fonitro a hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru.
Mae aelodau Grwp Monitro CCUHP Cymru’n cynnwys: Action for Children – Gweithredu dros Blant, Canolfan Materion Cyfreithiol Prifysgol Aberystwyth, Barnardo’s Cymru, Adran Iechyd Plant Prifysgol Caerdydd, Plant yng Nghymru, Draig Ffynci, Nacro Cymru, NCH, NSPCC Cymru, Achub y Plant yng Nghymru (Cadeirydd) ac Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe. Sylwedyddion: Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Uned Cefnogi Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc.
Sefydlwyd Grwp Monitro CCUHP Cymru yng Ngorffennaf 2002 ychydig cyn gwrandawiad ail adroddiad cyfnodol Llywodraeth y Deyrnas Unedig i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Ngenefa. Y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn yw’r unig gytuniad hawliau dynol rhyngwladol sy’n nodi’n benodol bod gan gyrff anllywodraethol ran i’w chwarae wrth fonitro gweithrediad y Confensiwn (dan Erthygl 45a o’r CCUHP).
Mae’r Grwp Monitro wedi cynyddu o ran maint a chryfder ers 2002, a chanlyniad hynny yw bod mwy a mwy o gyrff anllywodraethol a sefydliadau academaidd yn ymwneud â datblygu eu dealltwriaeth hwy a dealltwriaeth partneriaid eraill o bwysigrwydd yr CCUHP. Mae hefyd wedi datblygu llais cyfunol pwysig, sy’n adeiladol ac eto’n feirniadol, ac sy’n monitro rhwymedigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wireddu hawliau plant.
Fel rhan o’r broses fonitro i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ysgrifennodd y Grwp adroddiad interim yn 2006 dan y teitl Cywiro’r cam: realiti hawliau plant yng Nghymru. Hwn oedd yr adroddiad cyntaf a mwyaf ar gyflwr hawliau plant yng Nghymru a chafodd ei lansio mewn cynhadledd boblogaidd iawn yng Nghanolfan Dylan Thomas yn Abertawe yn Ionawr 2006.
Yn 2007, ysgrifennodd y Grwp Aros, edrych, gwrando: sut mae gwireddu hawliau plant yng Nghymru, sef adroddiad amgen cyrff anllywodraethol Cymru, a gyflwynwyd i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fel rhan o broses adrodd Gwladwriaeth y Deyrnas Unedig.
Am fwy o wybodaeth am waith y grwp ewch i Grwp Monitro CCUHP.