Gweithwyr Proffesiynol
Mae Erthygl 42 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn dweud y dylai pob oedolyn a phlentyn wybod am y Confensiwn. Yn Sylwadau Clo Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn 2008, dywedodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru wneud yn siwr bod oedolion a phlant yn gwybod am y Confensiwn ac yn ei ddeall, a bod yn rhaid darparu hyfforddiant ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i bob oedolyn sy'n gweithio gyda phlant gan gynnwys yr heddlu, gweithwyr mewnfudo, y cyfryngau, athrawon, gweithwyr iechyd proffesiynol, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal plant.
Er mwyn i blant a phobl ifanc allu arfer eu hawliau’n llawn, bydd angen i bob gweithiwr proffesiynol sy’n gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc ddeall y Confensiwn a sut i fabwysiadu dull gweithredu sy'n ystyriol o blant yn eu gwaith.
I gael rhagor o wybodaeth am y rheswm pam y mae pobl angen hyfforddiant ar y Confensiwn ewch i’r adran Codi Ymwybyddiaeth ar y dudalen Hawliau Plant yng Nghymru.
Mae hyn yn cynnwys:
• staff rheng flaen megis athrawon, meddygon a nyrsys, gweithwyr gofal plant a swyddogion yr heddlu
• cynllunio a llunwyr polisi ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol
• proffesiynau nad ydynt yn dod i gysylltiad uniongyrchol â phlant a phobl ifanc ond y mae eu gwaith yn dylanwadu ar fywydau plant a phobl ifanc megis y gweithwyr proffesiynol sy’n gysylltiedig â chynllunio trefi, pensaernïaeth, marchnata, y wasg a’r cyfryngau, adwerthu a gwasanaethau hamdden
Mae’r adran hon yn cynnwys adnoddau sydd wedi'u teilwra'n benodol i bob grwp proffesiynol, ac fe gewch lwytho pecyn hyfforddi byr oddi ar y wefan y gellid ei gyflwyno i ymarferwyr yn unrhyw un o'r grwpiau uchod a llawer mwy. Os nad oes pecyn hyfforddi ar gael naill ai’n uniongyrchol ar gyfer eich grwp proffesiynol chi neu os nad oes un sy’n ddigon agos, yn eich barn chi, at eich proffesiwn i’w ddefnyddio, cysylltwch ag Achub y Plant i roi gwybod i ni. Allwn ni ddim sicrhau y gallwn ddarparu pecyn hyfforddi addas ond mi wnawn os oes modd.
Manylion cysylltu Achub y Plant
Ffôn:
Pecynnau hyfforddi (dolenni i’w llwytho oddi ar y wefan):
Nodiadau:
Efallai y bydd mwy nag un grwp proffesiynol yn berthnasol i rai pobl. Er enghraifft, gweithwyr cymdeithasol yn gweithio gyda’r TTI lleol neu swyddog yn y cyfryngau’n gweithio gydag elusen gwaith chwarae. Os dyma’ch sefyllfa chi, ac yn ansicr pa un sy’n berthnasol, edrychwch ar y ddau neu ffoniwch ni ar .
Gyda phob sleid PowerPoint y mae Prif Bwyntiau Dysgu a disgrifiadau o’r gweithgareddau. Er mwyn cael gafael ar y rhain bydd angen arbed y cyflwyniad PowerPoint i’ch cyfrifiadur a'i agor wedyn yn y wedd ‘normal’. Er mwyn arbed naill ai’r sleidiau PowerPoint neu’r Amlinelliad o’r Cwrs, ewch i 'Ffeil' a 'Dewisiadau Cadw' (Save as).
Gweithwyr ar y rheng flaen
Yr Heddlu (Amlinelliad o’r Cwrs) (PowerPoint)
Gweithwyr a swyddogion lloches a mewnfudo (Amlinelliad o’r Cwrs) (PowerPoint)
Y cyfryngau (Amlinelliad o’r Cwrs) (PowerPoint)
Athrawon (Amlinelliad o’r Cwrs) (PowerPoint)
Gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd corfforol (Amlinelliad o’r Cwrs) (PowerPoint)
Gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd meddwl (Amlinelliad o’r Cwrs) (PowerPoint)
Gweithwyr cymdeithasol (yn y maes a phreswyl) (Amlinelliad o’r Cwrs) (PowerPoint)
Gweithwyr gofal plant (Amlinelliad o’r Cwrs) (PowerPoint)
Gweithwyr cyfiawnder yr ifanc (Amlinelliad o’r Cwrs) (PowerPoint)
Gweithwyr ieuenctid (Amlinelliad o’r Cwrs) (PowerPoint)
Gweithwyr chwarae (Amlinelliad o’r Cwrs) (PowerPoint)
Gweithwyr Cyfranogaeth (Amlinelliad o’r Cwrs) (PowerPoint)
Swyddogion ymgysylltu (Amlinelliad o’r Cwrs) (PowerPoint)
Swyddogion cyfraith teulu (Amlinelliad o’r Cwrs) (PowerPoint)
Eiriolwyr / cyfryngwyr ar gyfer plant a phobl ifanc (Amlinelliad o’r Cwrs) (PowerPoint)
Cynllunio a Gwneuthurwyr Polisi
Cyfiawnder ieuenctid (Amlinelliad o’r Cwrs) (PowerPoint)
Addysg (Amlinelliad o'r Cwrs) (PowerPoint)
Iechyd (Amlinelliad o'r Cwrs) (PowerPoint)
Gofal cymdeithasol (Amlinelliad o'r Cwrs) (PowerPoint)
Gofal plant (Amlinelliad o'r Cwrs) (PowerPoint)
Cynllunio
Trafnidiaeth
Datblygu economaidd
Datblygiad cymunedol
Hamdden
Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc
Proffesiynau eraill
Penseiri
Gweithwyr proffesiynol ym maes marchnata a hysbysebu
Adwerthwyr
Staff lleoliadau hamdden a chwaraeon ee canolfannau hamdden, sinemâu, amgueddfeydd