Polisi a gweithdrefnau amddiffyn plant
Os yw gwaith yn ymwneud â phlant a phobl ifanc, rhaid i sefydliadau ddatblygu polisi a gweithdrefn amddiffyn plant er mwyn sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei ddiogelu rhag niwed.
Os oes arnoch angen mwy o wybodaeth am amddiffyn plant, Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan yw’r man cychwyn. Mae Grwp Adolygu Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan wedi adolygu’r gweithdrefnau ar ran Byrddau Lleol Diogelu Plant Cymru. Mae Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2007 yn disodli’r gweithdrefnau blaenorol a gyhoeddwyd yn 2002. Maent wedi’u diweddaru i ymgorffori’r newidiadau pwysig ers pan gyhoeddwyd hwy am y tro cyntaf, yn enwedig argymhellion Adroddiad Ymchwiliad Victoria Climbié, Deddf Plant 2004 a’r canllawiau cysylltiedig, Diogelu Plant: Gweithio Gyda’n Gilydd o dan Ddeddf Plant 2004.
Mae’r gweithdrefnau’n darparu safonau cyffredin fel arweiniad i waith amddiffyn plant i bob Bwrdd Lleol Diogelu Plant yng Nghymru. Maent yn darparu fframwaith ar gyfer atgyfeiriadau amddiffyn plant unigol, camau gweithredu, penderfyniadau a chynlluniau. Maent yn rhan annatod o’r agenda ar gyfer diogelu a hybu lles plant.
The UNCRC is cited as an underpinning principle of the All Wales Child Protection Procedures and specifies amongst other issues that a child has a right to an independent advocate and a right to confidentiality except in particular circumstances.
Ar gyfer pwy y mae’r gweithdrefnau?
Mae’r gweithdrefnau’n seiliedig ar yr egwyddor sylfaenol bod diogelu plant rhag niwed yn gyfrifoldeb i bob unigolyn ac asiantaeth sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd, a chydag oedolion a allai achosi risg i blant, mewn gwahanol broffesiynau, asiantaethau ac adrannau ac yn y sectorau statudol, gwirfoddol ac annibynnol. Ni all un asiantaeth ddiogelu plant yn effeithiol drwy weithredu ar ei phen ei hun. Mae’r gweithdrefnau’n egluro sut y dylai unigolion ac asiantaethau gyfathrebu a gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol mewn partneriaeth er mwyn clustnodi plant sy’n agored i niwed, eu cadw’n ddiogel rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso a gwella canlyniadau iddynt.
Mae Deddf Plant 2004 yn enwi’r sefydliadau, sydd â dyletswydd statudol i ddiogelu a hybu lles plant, sy’n aelodau o’r Byrddau Lleol Diogelu Plant. Mae gan y Byrddau Lleol Diogelu Plant gyfrifoldeb i sicrhau bod Gweithdrefnau Diogelu Plant Cymru Gyfan yn cael eu gweithredu’n llawn yn eu hardaloedd ac i fonitro eu heffeithiolrwydd.
Mae’r gweithdrefnau’n ddogfen gyhoeddus ac maent yn cydnabod y gall aelodau o bob cymuned chwarae rhan hanfodol yn y broses o dynnu sylw adrannau gwasanaethau cymdeithasol a’r heddlu at bryderon yn ymwneud â niwed i blant.
I gael rhagor o gyngor am Amddiffyn Plant, defnyddiwch y dolenni cyswllt defnyddiol isod:
I ddarllen mwy o wybodaeth ar amddiffyn plant a hawliau plant edrychwch ar yr erthygl yma neu i’n Llyfrgell.