Egwyddorion arweiniol yr CCUHP
Mae’r egwyddorion arweiniol yn allweddol er mwyn deall sut i weithredu’r CCUHP yn llawn. Maent yn darparu’r dull ar gyfer dehongli a chyflawni’r erthyglau hawliau. Yn unol ag egwyddor anwahanoldeb hawliau dynol rhaid ystyried pob un o’r egwyddorion arweiniol ochr yn ochr â phob erthygl.
Disgrifir hwy’n aml fel hawliau cyfryngol – hawliau sy’n ymwneud â phroses dda y dylai plant eu mwynhau. Mae rhai wedi dweud bod mabwysiadu’r dull hwn o weithredu’n gwneud y Confensiwn yn fwy na rhestr foel o rwymedigaethau, ac yn rhoi enaid iddo!
Mae egwyddorion arweiniol y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn i’w gweld yn Erthyglau 2, 3, 6 a 12.
Erthygl 2
Peidio â gwahaniaethu
Mae pob hawl yn gymwys i bob plentyn heb unrhyw eithriad. Mae’r Wladwriaeth dan rwymedigaeth i ddiogelu plant rhag gwahaniaethu o unrhyw fath ac i gymryd camau cadarnhaol er mwyn hyrwyddo eu hawliau.
Darllenwch destun llawn Erthygl 2 yma
Mae hyn yn golygu bod y Confensiwn yn berthnasol i bob plentyn, beth bynnag ei hil, crefydd neu allu, ni waeth beth mae’n ei feddwl neu’n ei ddweud, ac ni waeth o ba fath o deulu y mae’n dod. Does dim gwahaniaeth ble mae plant yn byw, pa iaith y maent yn ei siarad, beth mae eu rhieni’n ei wneud, a ydynt yn fechgyn ynteu’n ferched, i ba ddiwylliant y maent yn perthyn, a oes ganddynt anabledd neu a ydynt yn gyfoethog neu’n dlawd. Ni ddylai unrhyw blentyn gael ei drin yn annheg am unrhyw reswm – mae gan blant hawl i gael eu diogelu’n weithredol rhag pob math o wahaniaethu.
Mae’r erthygl ynglyn â pheidio â gwahaniaethu’n pwysleisio pa mor bwysig yw ystyried effaith polisi/deddfwriaeth/datblygu prosiectau/cynllunio a chyflenwi gwasanaethau ar blant fel grwp yn ogystal â’r plant mwyaf difreintiedig sydd ar gyrion cymdeithas.
Article 3
Pennaf les y plentyn
Rhaid i bob gweithred sy’n ymwneud â’r plentyn roi ystyriaeth lawn i’w bennaf les. Rhaid i’r Wladwriaeth roi gofal digonol i’r plentyn pan fo rhieni, neu eraill sydd â’r cyfrifoldeb hwnnw, yn methu â gwneud hynny.
Darllenwch destun llawn Erthygl 3 yma
Mae hyn yn golygu mai’r prif beth y mae’n rhaid ei ystyried wrth wneud penderfyniadau a allai effeithio ar blant yw pennaf les y plant. Mae’r egwyddor hon yn ceisio gwneud iawn am y flaenoriaeth isel sy’n cael ei rhoi yn aml i les plant pan fo buddiannau cryf yn cystadlu yn erbyn ei gilydd.
Mae’n rhwymo pobl sy’n gwneud penderfyniadau, yn pennu cyllidebau ac yn llunio deddfau a pholisïau i ystyried bob amser a fydd penderfyniad yn effeithio ar fywydau plant, i asesu beth fydd yr effaith hwn, ac i godi lles plant i lefel ystyriaeth sylfaenol yn y penderfyniad terfynol.
Am y berthynas rhwng y ddarpariaeth hon ac Erthygl 12, gweler isod.
Erthygl 6
Goroesi a datblygu
Mae gan bob plentyn hawl gynhenid i fywyd, ac mae gan y Wladwriaeth ddyletswydd i sicrhau goroesiad a datblygiad y plentyn.
Darllenwch destun llawn Erthygl 6 yma
Dylai llywodraethau sicrhau bod plant yn goroesi ac yn datblygu’n iach. Mae gan blant hawl i fywyd, fel yr hawl i fywyd sydd gan bob bod dynol drwy’r Datganiad ar Hawliau Dynol, ond yn fwy penodol, mae ganddynt hawl i fanteisio ar yr holl adnoddau sydd ar gael ac sy’n angenrheidiol er mwyn eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial yn llawn.
Erthygl 12
Barn y plentyn
Mae gan y plentyn hawl i fynegi ei farn yn rhydd ac i wybod y bydd y farn honno’n cael ei hystyried mewn unrhyw fater neu weithdrefn sy’n effeithio ar y plentyn.
Darllenwch destun llawn Erthygl 12 yma
Pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar blant, mae gan blant hawl i ddweud beth ddylai ddigwydd yn eu barn hwy ac i wybod y bydd eu barn yn cael ei hystyried.
Nid yw hyn yn golygu y gall plant yn awr ddweud wrth eu rhieni beth i’w wneud. Mae’r Confensiwn yn annog oedolion i wrando ar farn plant ac i’w cynnwys wrth wneud penderfyniadau.
Nid yw erthygl 12 yn ymyrryd â hawl a chyfrifoldeb rhieni i fynegi eu barn ynglyn â materion sy’n effeithio ar eu plant.
Nid oes tensiwn rhwng erthyglau 3 a 12, dim ond rôl ategol i’r ddwy egwyddor gyffredinol: mae un yn sefydlu’r nod o sicrhau pennaf les y plentyn ac mae’r llall yn darparu’r fethodoleg ar gyfer cyflawni’r nod o wrando ar y plentyn neu’r plant. Mewn gwirionedd, nid yw’n bosib cymhwyso erthygl 3 yn iawn heb barchu cydrannau erthygl 12. Yn yr un modd, mae erthygl 3 yn atgyfnerthu ymarferoldeb erthygl 12, sy’n hwyluso rôl hanfodol plant ym mhob penderfyniad sy’n effeithio ar eu bywydau.
Mae’r Confensiwn yn cydnabod bod yn rhaid i lefel cyfranogiad plentyn mewn penderfyniadau fod yn briodol i lefel aeddfedrwydd y plentyn. Mae gallu plant i ffurfio a mynegi eu barn yn datblygu â phrofiad. Bydd barn pobl ifanc yn eu harddegau’n cyfri mwy i’r rhan fwyaf o oedolion na barn plentyn iau, mewn penderfyniadau teuluol, cyfreithiol neu weinyddol, ond gall gallu plant i wneud penderfyniadau aeddfed ddatblygu pan fyddant yn ifanc iawn ar yr amod eu bod yn cael cyfle i brofi’r broses hon.
Mae gwrando ar blant yn arwain at well dealltwriaeth o realiti bywydau plant ac yn helpu i ddeall beth sy’n achosi i hawliau gael eu hatal. Mae’n golygu ymgysylltu â phlant fel dinasyddion sy’n gallu cyfrannu at eu datblygiad eu hunain. Mae’n disgwyl i ymarferwyr ystyried barn plant wrth wneud penderfyniadau ac mae’n cael ei ategu gan hawliau cyfranogi eraill sy’n sicrhau bod plant yn cael yr wybodaeth y mae arnynt ei hangen, h.y. rhyddid mynegiant a rhyddid i ymgysylltu.
Dolenni cyswllt defnyddiol