Deall hawliau plant
Deall hawliau plant – deall hawliau plant a’r dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau.
Mae’r dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau plant yn seiliedig ar ddealltwriaeth o wahaniaethu yn erbyn plant ac ymrwymiad i ddileu gwahaniaethu yn erbyn pob plentyn ac i gefnogi’r rhai hynny sydd â dyletswydd (megis rhieni/gofalwyr, gwasanaethau, asiantaethau neu gyrff penodol) i gyflawni eu rhwymedigaeth i weithredu egwyddorion hawliau plant a hawliau dynol. Mae datblygu eich dealltwriaeth o hawliau plant yn hollbwysig er mwyn gweithredu hawliau plant.
Edrychwch ar bob rhan o’r wefan er mwyn gwneud hyn, yn enwedig y rhannau Am hawliau plant, Hawliau Dynol, Hawliau Plant yng Nghymru, Cyfranogi, Gwahaniaethu yn erbyn plant a Gwneud hawliau plant yn realiti ac ewch i Addysg a Hyfforddiant os oes arnoch angen hyfforddiant i’ch sefydliad.