Pam hawliau plant?
Tan yn ddiweddar, mae plant, fel llawer o grwpiau eraill sydd ar y cyrion, wedi bod yn ddi-lais a’u pennaf les yn aml iawn yn cael ei anwybyddu – mae prinder cyfleoedd i ddylanwadu ar y cyfryngau, y llysoedd a sianeli cyfranogi gwleidyddol, ynghyd â’u hanallu i bleidleisio, wedi golygu eu bod hyd yn oed yn fwy agored i niwed. Cyn Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) roedd plant yn cael eu hystyried fel unigolion “heb eto” fod yn barod. Mae’r Confensiwn yn eu gweld fel unigolion cyflawn sy’n gymwys i ymarfer eu hawliau dynol eu hunain yn annibynnol.
Mae’r CCUHP wedi arwain at y camau petrus cyntaf tuag at gydnabod plant fel “bodau dynol” yn ôl eu hawl eu hunain. Roedd plant yn anweledig yn y gyfundrefn hawliau dynol, a’u hawliau wedi’u gwasgaru rhwng yr offerynnau hawliau dynol eraill. Mae fframwaith rhyngwladol yr CCUHP yn hollbwysig yn y cyfnod hwn mewn hanes, er mwyn gwneud plant yn fwy gweladwy. Drwy fanteisio ar y Confensiwn mae modd rhoi statws uwch i blant ar yr agenda wleidyddol, a rhoi’r hawl iddynt fod yn ddinasyddion gweithredol mewn democratiaeth genedlaethol a lleol.
Mae plentyndod yn gyfnod pan fo gallu’n esblygu. Mae’n gyfnod hollbwysig yn rhychwant oes bodau dynol, o ran goroesiad a datblygiad, ond mae hefyd yn gyfnod o fod yn gymharol agored i gamdriniaeth ac ecsbloetio. Mae’r CCUHP yn cydnabod anghenion unigryw’r plentyn ar gyfer ei ddatblygiad ac yn rhoi sylw i’r plentyn cyfan. Mae’n edrych ar blant mewn ffordd gyfannol – yn hawlio bod yn rhaid i blant gael pob un o’u hawliau er mwyn iddynt oroesi a datblygu’n llawn.
Mae ar blant angen eu cyfres eu hunain o hawliau am y rhesymau isod:
- ychydig iawn o rym gwleidyddol neu gymdeithasol sydd ganddynt
- maent yn ddibynnol ar oedolion o safbwynt economaidd
- maent yn ddarostyngedig i reolau nad ydynt yn berthnasol i grwpiau cymdeithasol eraill
- maent yn agored iawn i gael eu trin yn wael gan oedolion a’r rhai hynny sy’n fwy pwerus na hwy
- maent yn tyfu gan wybod bod ganddynt statws is na grwpiau cymdeithasol eraill ac mae gwahaniaethu ar sail oedran yn realiti i lawer
- mae plant a phobl ifanc ymhlith y prif rai sy’n derbyn gwasanaethau
- nid oes cyfle yn aml iawn iddynt fynegi barn ynghylch mynediad at wasanaeth a chyflenwi gwasanaeth